More Details More Details

Ysgrifennwyd gan Huw Jack Brassington


Dw i am fod yn onest o’r cychwyn cynta. Doeddwn i ddim wedi paratoi hanner digon at hyn. Roeddwn i’n digwydd bod yn Seland Newydd ar fy ngwyliau pan glywais am y ras. Yn bencampwriaeth byd yr aml-gamp, neu multisport, mae’r Coast to Coast yn saith cymal o redeg, seiclo a chaiacio dwr gwyn ar hyd 243km o anialdir Seland Newydd – o un ochr y wlad i’r llall.

Tua pythefnos cyn y digwyddiad, ges i sgwrs hefo Steve Gurney, yr athletwr fwya’ llwyddiannus yn hanes y ras a rhywun sydd wedi’i churo hi naw gwaith.

“Ymarfer ar y cwrs ydy’r gyfrinach”, meddai. “Mi faswn i’n argymell o leiaf dwy flynedd ar yr afon cyn meddwl am gystadlu. Mae ‘na ambell dwmffat yn disgwyl cael drwyddi hefo dau neu dri mis o brofiad”.

Daria. Roedd hi’n union bum wythnos cyn y ras arna’ i’n cofrestru a dechrau ymarfer. Dim digon o amser, ella, ond un peth sy’n siwr – difaru am byth faswn i pe bawn i heb rhoi cynnig arni.

Dim troi nol

Roedd angen tystysgrif gradd dau mewn caiacio dwr gwyn i gystadlu, oedd yn gofyn am brofiad cyn cychwyn. Yr unig adeg oeddwn i’n cofio bod mewn caiac oedd wrth drio suddo cychod fy ffrindia’ yng Nglan Llyn. Gyda dim cwch na chlem lle i ddechrau roedd dim ond un peth amdani – dweud ‘chydig o gelwydd noeth am ffyrnigrwydd Llyn Tegid. Drwy ryw wyrth, mi wnes i basio’r cwrs. Doedd dim troi nol.

Y ras

Toc wedi pump y bore a dw i’n rhan o’r garfan nerfus sy’n cerdded lawr at draeth Kumara ar lan Mor y Tasman. Allan o bump o bobol fues i’n siarad hefo nhw bore ‘ma, mae dau wedi ymddiswyddo ac wedi gwerthu eu tai er mwyn cael amser i ymarfer.

‘Da ni’n trochi ein ‘sgidia, traddodiad ar ddechrau a diwedd y ras, a chyn cael cyfle i feddwl am y rhyn sydd o’n blaen, rydan ni ar garlam. Mae’r ddau gilomedr cyntaf yn teimlo’n hurt wrth i ni redeg ffwl-pelt ar draeth tywyll.

Dwi’n rhan o’r ail grwp i adael ar ein beics. Mae’r hen fois yn cyfarth, yn hel a didol y ddiadell i fewn i linellau aerodeinamic, effeithiol. Er ei bod hi’n gamp unigol, mae angen gweithio hefo’n gilydd pan ddaw cyfle – er lles pawb.

Coast to Coast New Zealand

Dw i’n edrych i fyny o fol y pelaton a’n gweld amlinelliad mynyddoed anferth Alpau’r De am y tro cynta. Mae’r wawr yn newydd ond mi ydan ni wedi hen dechrau chwysu.

Ymlaen at y cymal nesa’ – 33km o redeg mynydd – ond cyn hynny dw i’n cael fy nhaflu ar gadair i newid fy ‘sgidiau a’m mhlastro hefo eli haul. Mae pawb sy’n cystadlu yn gorfod cael tim o gefnogwyr i’w dilyn hefo offer a bwyd ar hyd y daith. Mi fasa’ hi’n amhosib gorffen y ras hebddyn nhw.

O fewn chwinc o adael y beic, dw i fyny at fy nghanol mewn dwr rhynllud ac yn dringo dros gerrig anferth. Erbyn cyrraedd y bwlch, 800m i fyny, dw i wedi disgyn ddwywaith, wedi croesi 17 afon ac wedi colli fy nghap a’m sbectol haul yn y broses.

Chwe awr a hanner ar ol cychwyn o’r traeth, dw i’n cyrraedd ceunant y Waimakariri i ddechrau’r 70km o gaiacio. Dyma’r her fwya’ i mi. Mae dyfroedd ffyrnig yr afon wedi achosi hunllefau dros yr wythnosau diwetha’. Os ydw i’n rhy araf, ga’i ddim cario mlaen. Os dw i’n troi drosodd, mae peryg torri’r gwch a fi’n hun.

Dw i’n crampio’r holl ffordd ond rhiwsyt yn dechrau deallt y dwr gwyrion ma yn y broses. Cropian wedyn o’r gwch, fy nghoesau i’n ddiarth ac yn gwrthod symud. Mae Gwenllian, yr aelod byra’ o’r criw, yn gorfod dal fy holl bwysau blewog ar ei hysgwyddau a’n llusgo at fy meic.

Wrth ddechrau troi’r pedalau mae pwysau mawr yn codi oddi ar fy ‘sgwyddau. Dw i’n deallt beic – mae’n hen ffrind. Does dim dwr gwyn, trobyllau na chreigiau cudd yn medru fy stopio i. Rhoi un droed o flaen y llall a dw i adra. Mae ‘na gwrw yn galw.

Tair awr wedyn, gyda’r haul newydd fachlud, dwi’n rhedeg tuag at y Môr Tawel a’r llinell derfyn tair awr a hanner ar ol yr enillydd Sam Clark. 15 awr 26 munud i groesi gwlad.

Video

The Pioneer Promo Video from The Pioneer on Vimeo.