Saith diwrnod o rasio, 569km o seiclo, 15,273m o ddringo, ac un beiciwr mynydd doji. Mae ras beicio mynydd diweddaraf Seland Newydd, Y Pioneer, ar y ffordd i uchelfannau’r gamp yn ôl Huw Jack Brassington.

Click here for the English language version.

Paratoi

“Y wraig ‘di brifo? Gwych! Pryd ‘da ni’n dechrau?”, dywedais heb feddwl. Roeddwn i wedi bod ar y ffôn hefo un o drefnwyr ras feics mynydd newydd ar draws Seland Newydd. Roedd aelod o dîm wedi cael anaf munud olaf ac roedd angen rhywun i lenwi’r bwlch.

Pedwar diwrnod cyn cychwyn y ras hurt yma doeddwn i ‘mond wedi bod ar feic mynydd lond llaw o weithiau. Ond buan iawn yr anghofais am fy niffyg profiad ar ôl clywed y geiriau melys… “Bacwn di-ben draw i frecwast”. Roni’n gêm.

Mae’r Pioneer yn ras 569km sy’n llwybreiddio trwy ganolbarth mynyddig Seland Newydd. Rhwng Christchurch a Queenstown mae o’n dringo bron i ddwywaith uchder Everest. Roedd 300 o feicwyr yn cymryd rhan, yn eu plith roedd pencampwr byd, enillydd medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad…a fi – tatan flewog o Gaernarfon. Mae pawb angen dechrau yn rhywle ‘does?

Roni’n sefyll allan fel dafad ddu ar y llinell ddechrau – wedi llogi beic y diwrnod cynt a hwnnw’n edrych fel motor hen daid ‘di glanio yn y Fformiwla Un. O edrych nôl, roni’n hapus braf yn fy nallineb.

Dyma maint yr her yn taro adra’ hefo waldan fwdlyd i waelod fy nghefn. Roedd y dringo yn ddi-ben-draw a’r tyniant yn mynd a dod fel a fynnir gan wneud i olwyn cefn fy meic droelli yn ei unfan fel petai ‘na 500 ceffyl yn ei bweru.

Doedd y darnau gwastad ddim gwell. Roedd y pac yn teithio ochr yn ochr drwy afonydd, dros bontydd pren tila ac ar hyd sawl dibyn dwfn. Yr unig beth oedd yn rhoi seibiant oddi wrth y sgarmes gyfyng oedd mynydd. Ar ôl dipyn roedd gweld un or’r llethrau hyn yn codi calon ryw ‘chydig, nes i’r graddiant gael y gorau eto. Roeddwn i’n gorfod ymuno hefo’r dorf a cherdded i ben y mynydd fel rhesiad ansicir o bengwins mewn sgidia beic.

Ail ddiwrnod – Sylweddoli

The Pioneer

Wrth edrych i lawr o Fwlch Mickleburn, mi welais newid syfrdanol yn y tirwedd. Y tu ôl i mi, roedd tir fferm y Cantebury Plains yn ymestyn at y gorwel ac o fy mlaen roedd mynyddoedd siarp Alpau’r De. Roedd y ras ar fin ein taflu i’w canol.

Mae capiau disglair gwyn y mynyddoedd yn edrych i lawr dros y ceunantau tra bo dwr llachar y llynnoedd glas yncroni wrth eu traed – golygfa anhygoel ond maen taro adra’ y bydd rhaid i mi fynd fyny’r mynyddoedd, trwyr ceunatau a mewn i ddyfroedd rhynllyd yr afonydd.

Trydydd diwrnod – Egni

Roedd hi’n 40c ar y trydydd diwrnod – chwalfa lychlyd o ddringo 2500m. Ond roedd gorffen ar fy mhen yn ganol Llyn Tekapo, sy’n cael ei fwydo gan rewlif, yn fwy na gwneud fyny am y gwaith caled. Mewn gwirionedd yr unig beth oedd angen i mi wneud pan oedd pethau yn mynd yn galed oedd codi fy mhen. Roedd y golygfeydd arallfydol o’n nghwmpas yn rhoi egni di-ben draw.

Diwrnod Pump – Cymal y Sguthan

2

Gyda 100km o seiclo a bron i 4000m o ddringo wedi’i wneud hyd yn hyn, dw i’n cropian i fyny’r bwlch olaf. Da ni’n uchel uwchben Llyn Hawea ac mae’r olygfa’n syfrdanol; gwyllt a gwirioneddol anial. O fewn eiliadau dw i’n cael fy rhwygo nôl i’r dasg hurt o ‘mlaen. Mae’r llwybr caregog wedi ei naddu fewn i wyneb y mynydd – yn llithro lawr ar ongl hollol afresymol. Mae cerrig rhydd a’r tomeni gwair yn cydweithio i drio dwyn fy olwyn blaen yn y mewn gêm o hide and seek mwyaf dychrynllyd dw i erioed ‘di chwarae. Erbyn cyrraedd y gwaelod mae fy nwylo wedi cloi fewn i ddwy grafanc ar ôl gwasgu’r brecs am gyn hired. Mae pigo fyny jeli babies hefo’r ddwy raw ddiarth ‘ma ar ddiwedd fy mreichiau yn amhosib, dw i jyst a dechrau pori.

Erbyn diwedd bob diwrnod dw i wedi cael fy chwalu yn feddyliol ac yn gorfforol. Ar feic lôn, o leiaf mae ‘na chydig o seibiant i’w gael. Ddim yn fa’ma. Os wyt ti’n stopio canolbwyntio am eiliad, ti dros y dibyn. Roedd rhwng saith a deg awr o hyn bob dydd yn chwalfa, ac roedd gweld y babell nos yn llawn bwyd a cwrw oer yn olygfa groesawgar iawn. Y foronen i ddenu’r mul adra’.

Diwrnod Saith – Am Adra

3

“Gnarly” mae’r Kiwis yn galw’r tirwedd yma ac mae o yn gweddu. Mae’n gras ac anfaddeugar, yn ymestyn trwy duswau o Giant Spaniard (math o wair pigog brodorol sy’n gefnder i’r foronen coeliwch neu beidio) – mae’n frwydr am bob modfedd, hyd yn oed lawr allt.

Roedd y blinder, yr ysfa i orffen a natur dechnegol y cwrs yn gyfuniad peryglus. Yn y 10km cynta’, mi welais i ddwy ddamwain yn digwydd o flaen fy llygaid ac olion ryw hanner dwsin arall. Yn wasgar o gwmpas y llinell fyrraf (ai ddim mor bell â’i alw fo’n lwybr) roedd twmpath o olwynion plygiedig a chleifion cloff yn un ai pysgota eu beiciau allan o ffôs neu’n eistedd yn disgwyl am lifft. Oni ’di hen ddechra mynd fel malwan ar ol gweld hynny; ron i’n gorffen y diawl ras ‘ma. Roedd y baptism of fire wedi gweithio ac mi ddois i lawr yr llethr 23 km (oedd yn cynwys tirwedd anoddaf yr wythnos) ac aros ar fy meic, gan seiclo lawr darnau ‘swn i’n debygol o fod angen rhaf ddringo er mwyn eu gwneud nhw’r wythnos yn gynt.

Wrth i fi longyfarch fy hun am fod yn grêt a pharatoi at 20km llyfn at y llinell derfyn, daeth yr hen elyn i’r golwg – ffôs fwdlyd. Fe wnaeth hon ysbrydoli pedwerydd somersault y daith, a fy ngorchuddio o mhen i nghynffon mewn mwd trwchus.

Gorffen – Panda

6

Yn wên o glust i glust ar y llinell derfyn yn Queenstown, mae’r cylchoedd glân gwyn a fu’n cuddio o dan fy sbectol haul yn gwneud i fi edrych fel panda gwallgo’.

Enillwyr y ras oedd Anton Cooper a Dan McConnell – roedden nhw angen c’nesu fyny cyn y Gemau Olympaidd! Mae’r ddau ddyn yma yn fwy o ninjas na reidwyr beic. Roedd ei gwylio nhw’n llifo lawr y mynyddoedd yn ysbrydoliaeth ac yn fraint. Y rasys aml gymal yma yw’r Grand Tours o’i math. Nid yw’r Pioneer wedi cyrraedd statws ras fel y Tour de France eto ond os yw’r ras gynta’ yma’n unrhyw arwydd o beth sydd i ddod, mae o ar ei ffordd i ddod yn binacl y gamp. Roedd y trefnu a’r logisteg yn eithriadol. Mae ynys y de yn Seland Newydd 10 gwaith maint Cymru ond hefo dim ond miliwn o bobl yn byw yno.

Fe wnaeth y trefnwyr lwyddo i ddenu diadell o feicwyr a’u harwain i ddarnau o Alpau’r De sydd wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers cenedlaethau. A be’ oedd yn disgwyl amdanom ni ar dop y llethrau uchaf ac ar ddiwedd y dyffrynnoedd mwya anial? Jeli babies a bananas. Sut wnaethon nhw hyn, dw i ddim yn gwybod.  Rhywbeth i wneud hefo quad bikes a meddylfryd di-ildiol y Kiwis dw i’n amau.

Yn bendant, rydach chi ar anfantais wrth ddod mewn i her fel hyn heb brofiad beicio mynydd, ond dydi o ddim yn amhosib. Fel y Arloeswyr gwreiddiol, torchwch eich llewys ac iddi.